Hanes Y Sioe

Yn 2004 fe wnaeth Sioe Llanilar dathlu ei Ganmlwyddiant, a chyhoeddwyd llyfr “1904-2004: y ganrif gyntaf” i ddathlu hyn. Ysgrifennodd fy niweddar frawd, Peter Loxdale, a oedd wedi bod yn Llywydd y Sioe ers 1998 gyflwyniad huawdl iawn. Mewn ychydig o eiriau fe wnaeth crynhoi hanes y sioe, ei pherthnasedd i’r gymuned amaethyddol leol ynghyd â’i atgofion personol o ddod i’r sioe yn blentyn ifanc.

Bron i ugain mlynedd yn ddiweddarach mae’r hyn wnaeth Peter ysgrifennu yn dal i atseinio. Bu farw Peter yn 2017, wedi ei gymryd oddi wrthym yn llawer rhy ifanc. Mae’n anodd dychmygu gwell cyflwyniad i’r wefan hon ac mae’n deyrnged i’w gefnogaeth i’r Sioe dros bron i 30 mlynedd.

Patrick Loxdale,
Castle Hill, 29 Mawrth 2023
.

Rhagair Llywydd y Sioe (2004)

Tybed a freuddwydiodd sefydlwyr Cymdeithas y Sioe hon ganrif union yn ôl, y fyddai’n dal i ffynnu yn 2004? Dychmygwch yr haf hwnnw ym 1904. Yn ystod y gaeaf blaenorol roedd dyn wedi hedfan mewn awyren am y tro cyntaf. Newydd ddechrau oedd oes y car. Âi bron ugain mlynedd arall heibio cyn i ni gael gwasanaeth radio cyhoeddus. Roedd bywyd yn wahanol iawn. Y ceffyl oedd prif ffynhonnell pwer a chludiant a thybiaf mai prin iawn oedd peiriannau stem ar ffermydd yn y rhan hon o’r byd.

Roedd Cwmni Rheilffordd Manchester & Milford wedi hwyluso teithio ugain mlynedd yn gynt. Gwaith hanner diwrnod yn hytrach na diwrnod oedd mynd i Aberystwyth ac yn ôl. Gellid hefyd ddibynnu ar y trên i ddod a chyflenwad o nwyddau’n ddiffwdan o bell.

Yn nes adref roedd fy hen dad-cu, Reginald James Rice Loxdale, yn cynllunio i wella Castle Hill. Byddai’n cael lampau nwy asylen i oleuo’r ty ac yn ychwanegu tanciau dwr a stafell ymolchi gyda thapiau dwr poeth ac oer. Dyna beth oedd gwir foethusrwydd yn y cyfnod hwnnw yng Ngheredigion.

Tipyn o gamp oedd cystadlu yn Sioe Llanilar yn y dyddiau cynnar, mae’n rhaid. Byddai’r arddangoswyr lleol yn cerdded eu hanifeiliaid i’r Sioe ac yn cario’u cynnyrch. Am sawl blwyddyn, fel rwy’n deal, bu’r rheilffordd yn darparu wagenni gwartheg o orsaf Llambed er mwyn i denantiaid y stad yng Nghribyn fedru dod â’u hanifeiliaid i’r sioe yn Llanilar. Tybed beth fyddai’r ymateb i’r fath siwrnai heddiw? Erbyn hyn mae yna rwystrau gwahanol yn wynebu cystadleuwyr. Y leisens a’r pasbort a thoreth o reolau yw problemau’r oes hon. Mae’n braf meddwl, er gwaethaf dau ryfel byd a’r clwy traed a genau diweddar, fod y digwyddiad hwn a drefnir yn lleol yn dal i ffynnu er budd y gymdeithas leol.

Mae fy atgofion i o’r Sioe yn dyddio o 1966. Rwy’n cofio cael fy ngyrru i Gae’r Sioe yn Austin mawr llwyd fy niweddar fam-gu, Mrs M. L. R. Loxdale, y Llywydd. Y beili oedd wrth yr olwyn ac roedd fy mam-gu ar ei ffordd i weld y ‘Grand Parade’ a chyflwyno’r gwobrau. Dwi’n cofio gweld gorymdaith enfawr, gyda llu o anifeiliaid a cheffylau’n cordeddu ar hyd y prif gylch. Ar ôl cyflwyno’r gwobrau yn ôl â ni i Castle Hill i gael te parti. Achosodd y te parti gryn ofid i’r howsgiper. Ychydig iawn oedd wedi cael gwahoddiad cyn y Sioe, ond cafodd llawer eu gwahodd ar gae’r Sioe felly doedd neb yn siwr faint yn union oedd yn dod i de! I fachgen chwe mlwydd oed ymddangosai’r tŷ’n orlawn.

Yn ystod y deugain mlynedd diwethaf mae llawer wedi newid, ond rwy’n falch i ddweud fod ethos y Sioe yn dal yr un fath ag yr oedd ym 1904. Mae llawer o bobl sy’n gyfrifol am drefnu’r Sioe neu gystadlu ynddi heddiw yn ddisgynyddion i’r rhai a’i sefydlodd. Gobeithio y bydd hynny’n dal yn wir ymhen can mlynedd arall.

Peter Loxdale

Castle Hill, 25 Mai 2004