Cynnyrch

Mae’n werth i chi ymweld â’r babell fawr i weld yr amrywiaeth o grefftau, ffotograffiaeth, celf, ffrwythau a llysiau, cynnyrch fferm, clymu plu, blodau, mėl, gwin a chyffeithiau sydd wedi cystadlu yn y cystadlaethau eleni. Mae yna adran ysgol gynradd leol ar gyfer coginio, crefft a chelf yn ogystal â’r Tatws Trymaf a dyfir gartref.

Mae yna bob amser gais cryf yn yr adran goginio, yn enwedig y Gystadleuaeth Cacen i Ddynion – cystadleuaeth sy’n hynod o gystadleuol ac wedi dod yn uchafbwynt y dydd!

Mae angen cyflwyno pob cais cyn diwrnod y Sioe, gweler y Rhaglen am fwy o wybodaeth.